Cadarnhau dyddiad etholiadau Senedd Ewrop 2009
Bydd etholiadau Senedd Ewrop yn cael eu cynnal ar draws Ewrop
rhwng 4 a 7 Mehefin 2009. Mae Llywodraeth y D.U wedi
cadarnhau erbyn hyn mai dydd Iau 4 Mehefin 2009
fydd dyddiad yr etholiad yn y D.U. Ar y diwrnod yma, bydd y D.U
gyfan yn pleidleiso am ASEau (Aelodau Senedd Ewrop) i’n cynrychioli
ni yn Ewrop. Byddwn ni’n cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr
etholiadau hyn yn fuan. Yn y cyfamser, pam na edrychwch chi ar
wefan senedd Ewrop -
http://www.europarl.europa.eu/ - a darganfod mwy am sut mae’r
Senedd yn gweithio, beth mae’n gwneud, a pwy yw eich ASEau.
Gwybodaeth etholiadol
Mae etholiadau i ddod
Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).
Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009.
Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!
Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol
I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod