Rydym ni wedi ail-lansio ein gwefannau

Rydym wedi bod yn brysur yn y Comisiwn Etholiadol yn gwella ein gwefannau.  Mae gwefan Ynghylchfymhleidlais (yr ydych chi arni hi nawr) wedi cael edrychiad a theimlad newydd, ac hefyd, mae llawer mwy o wybodaeth arni i’ch cynorthwyo chi i ddarganfod beth rydych chi eisiau gwybod am gofrestru i bleidleiso ag etholiadau.  Rydym ni hefyd wedi ail-lansio ein gwefan corfforaethol - http://www.electoralcommission.org.uk/ - i’w wneud yn llawer mwy  rhwydd i chi ddod o hyd i wybodaeth am waith Y Comisiwn Etholiadol.  Er enghraifft, gallwch chi ddysgu am ein gwaith i reoleiddio cyllidebau pleidiau gwleidyddol, adrodd ar etholiadau, a’n gwaith i osod safonau ar gyfer etholiadau a gaiff eu rhedeg yn dda

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod