Hysbysiad preifatrwydd

Sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth

Ymwelwyr i'r wefan

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych chi beth i'w ddisgwyl pan fydd y Comisiwn Etholiadol yn casglu gwybodaeth bersonol am ymwelwyr i’n gwefannau.

Pan fo rhywun yn ymweld â http://www.aboutmyvote.co.uk/, rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol sy'n dangos sut mae ymwelwyr yn defnyddio'r safle. Rydym yn gwneud hyn i fonitro nifer yr ymwelwyr i’r gwahanol rannau o'r safle, ac i ddadansoddi ymddygiad ein hymwelwyr er mwyn ein helpu i ddarparu gwell profiad i'r defnyddiwr. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i hunaniaethau’r sawl sy'n ymweld ag unrhyw rai o'n gwefannau. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd o’r wefan hon gydag unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu manylion personol unigolyn o unrhyw ffynhonnell. Os byddwn eisiau casglu gwybodaeth a allai ddatgelu manylion personol unigolion drwy ein gwefan, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn, ac yn gofyn am eich caniatâd. Os byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod am hyn, ac yn esbonio beth rydym yn bwriadu ei wneud gyda’r wybodaeth hon.

Defnyddio cwcis

Cwcis yw ffeiliau testun bach sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio'n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, a hefyd, i ddarparu gwybodaeth i berchenogion y safle. Bydd cwcis yn aml yn cofnodi gwybodaeth megis hoff ddewisiadau defnyddiwr ar gyfer opsiynau ar safle, neu ar safle trafodaethol, bydd cwci’n cael ei ddefnyddio i adnabod defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi ac i gynnal gonestrwydd y data y maent yn eu rhoi i mewn. Defnyddir cwcis hefyd i adnabod ymwelwyr i wefannau, er mwyn dadansoddi’r defnydd o'r safle.

Mae rhai cwcis yn cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan y wefan rydych yn ymweld â hi, ond mae eraill yn cael eu gosod gan drydydd parti, yn aml, i gasglu data ynghylch y defnydd a wneir o wefannau. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan y Comisiwn Etholiadol, gall nifer fach o gwcis trydydd parti gael eu gosod ar eich cyfrifiadur i helpu i ddadansoddi defnydd neu i fonitro llwyddiant ein hymgyrchoedd. Rydym yn darparu gwybodaeth am y rhain isod, ac yn dangos i chi sut i gael rhagor o wybodaeth amdanynt.

Caiff cyfeiriadau IP eu defnyddio i ddod o hyd i gychwyn i leoliad defnyddwyr. Caiff y wybodaeth yma ei ddefnyddio i deilwra’r wefan i wella profiad y defnyddiwr, ac i gyflwyno gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ardal leol (fel etholiadau sydd i ddod mewn ardal benodol). Defnyddir y wybodaeth hefyd i ddadansoddi a gwella’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar y wefan. Mewn mannau ble caiff gwybodaeth ei ddarparu yn seiliedig ar gyfeiriad IP y defnyddiwr, mae hyn yn arwain at ‘ddyfaliad gorau’ o leoliad y defnyddiwr. Mae sawl rheswm pam na fydd cyfeiriad IP defnyddiwr o bosibl yn cyfateb i leoliad ffisegol eu cyfrifiadur (er enghraifft, os yw mynediad y cyfrifiadur i’r rhyngrwyd yn seiliedig ar weinydd yn rhywle arall). Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cywirdeb y wybodaeth sy’n benodol i leoliad yn seiliedig ar gyfeiriadau IP, ac rydym wedi gwneud yn siŵr fod angen i’r defnyddiwr roi eu cod post i gadarnhau eu lleoliad pan maent yn darparu gwybodaeth bwysig. Gallai’r defnyddiwr newid y lleoliad sydd wedi cael ei osod gan y cyfeiriad IP ar unrhyw bryd, drwy roi eu cod post ar y wefan (yn yr adran ‘Eich ardal leol’).

Mae cyfleuster ar gael ar y wefan hon i ddefnyddwyr roi eu cod post. Caiff y cyfleuster yma ei ddarparu er cyfleustra’r defnyddiwr, ac mae’n caniatáu i’r wefan deilwra gwybodaeth i’w hardal leol (er enghraifft, etholiadau sydd i ddod mewn ardal benodol). Caiff y cod post sy’n cael ei roi gan y defnyddiwr ei gadw gan y safle fel ‘cwci’, sy’n golygu y bydd gwahanol adrannau o’r safle yn parhau i fod wedi’u teilwra i ardal y defnyddiwr wrth iddyn nhw symud drwy’r safle. Yr unig bryd y bydd cod post yn cael ei ddefnyddio gan y safle yw ar gyfer y pwrpas yma, ac i ddadansoddi a gwella’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar y wefan hon. Ni chaiff codau post eu defnyddio i gysylltu â defnyddwyr neu i anfon e-byst atynt, nag mewn unrhyw sefyllfa arall sydd ddim ar-lein.

Mae’r cyfleuster cod post yn darparu gwybodaeth drwy gysylltu codau post unigol i ffiniau etholiadol (fel awdurdodau lleol ac etholaethau seneddol). Caiff y data sy’n arwain y swyddogaeth ei ddarparu gan yr Arolwg Ordnans (ar gyfer data Prydain Fawr) ac Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon. Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y data, nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am y data yma, a gallai achosion godi ble mae llai na 100% yn gywir. Mae’r Arolwg Ordnans ac Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon yn darparu setiau o ddata wedi’u diweddaru yn rheolaidd, ac mae’r rhain yn cael eu defnyddio i ddiweddaru cronfa ddata’r wefan tua unwaith y flwyddyn, a drwy hynny, yn sicrhau fod codau post newydd neu newidiadau i ffiniau yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

Swyddogaeth llenwi ffurflen ar-lein

Mae’r wefan hon yn cynnwys swyddogaeth llenwi ffurflen ar-lein ar gyfer ceisiadau i gofrestru i bleidleisio ac ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy’r post. Darperir y swyddogaeth yma er cyfleustra’r defnyddiwr ac i leihau’r ymdrech sydd ei angen i gwblhau’r ceisiadau yma. Nodwch os gwelwch yn dda, nad yw’r broses hon wedi gorffen nes bod y defnyddiwr wedi cwblhau'r broses ar-lein, wedi argraffu eu ffurflen, wedi ei harwyddo hi â llaw, a’i hanfon hi’n ôl i’w swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Mae’r manylion cyfeiriad priodol yn cael eu darparu yn ystod y broses llenwi ffurflen, yn seiliedig ar y cod post a roddwyd gan y defnyddiwr. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol, drwy roi eich cod post yn y rhan o’r safle o’r enw “Eich ardal leol”.

Nodwch os gwelwch yn dda, nad yw’n bosibl “cyflwyno” ceisiadau ar-lein, gan fod angen llofnod ar bapur er diogelwch y bleidlais, a gan fod rhaid i geisiadau gael eu dychwelyd i swyddfeydd cofrestru etholiadol lleol ac nid i bwynt cyswllt canolog. Caiff cofrestru etholiadol ei reoli drwy gyfraith gan swyddfeydd cofrestru etholiadol lleol - nid yw’r Comisiwn Etholiadol ei hun yn gallu prosesu ceisiadau, ac nid oes ganddo ganiatâd i wneud hyn, felly ni ddylech chi anfon eich cais atom ni.

Gan nad yw ceisiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein, nid yw’r wefan yn cadw gwybodaeth bersonol a roddir gan y defnyddiwr ar ôl y cyfnod o amser a dreuliwyd yn cwblhau’r broses llenwi ffurflen. I sicrhau diogelwch y manylion cais, nid ydynt yn cael eu cario o un broses llenwi ffurflen i’r llall - er enghraifft, o’r broses cofrestru etholiadol i’r broses o wneud cais i bleidleisio drwy’r post. Yr unig eithriad i hyn yw cod post y defnyddiwr (sy’n cael ei roi ganddyn nhw); mae’r safle yn gofyn amdano er mwyn darparu gwybodaeth sy’n benodol i leoliad (fel manylion eu swyddfa gofrestru etholiadol leol).

Wrth gwblhau’r prosesau llenwi ffurflenni ar-lein, bydd defnyddwyr yn cael eu gorfodi i gysylltu i’r gweinydd gan ddefnyddio HTTPS - cysylltiad gweinydd diogel. Bydd hyn yn sicrhau y bydd data personol a gaiff ei roi gan ddefnyddwyr yn cael ei amddiffyn pan gaiff ei drosglwyddo i ac o’r gweinydd.

Ar ôl gwneud cais drwy’r broses llenwi ffurflen, yr unig wybodaeth sy’n cael ei gadw gan y safle yw: cod post y defnyddiwr (fel y rhoddir ganddyn nhw); dyddiad ac amser y cais; swyddfa cofrestru etholiadol lleol yr ymgeisydd (fel y penderfynir gan y cod post); a chyfeiriad IP cleient y defnyddiwr. Hefyd, mae rhif cyfeirnod unigryw yn cael ei roi ar hap i bob ymgeisydd. Caiff y wybodaeth yma ei gadw’n ddiogel, a dim ond gweinyddwyr y wefan sy’n gallu mynd ato. Yn gyffredinol, dim ond mewn amgylchiadau arbennig fydd y wybodaeth yma’n cael ei ddefnyddio, fel cais gan yr Heddlu. Ni fydd y wybodaeth yma’n cael ei ddefnyddio i gysylltu â defnyddwyr os na cheir caniatâd ganddynt o flaenllaw.

Profi diogelwch y wefan

Fel rhan o ddatblygiad y wefan, cynhaliwyd asesiad diogelwch cymwysiadau. Cynhaliwyd hyn drwy ddefnyddio’r meddalwedd WebInspect gan HP Software (SPI Dynamics gynt). Mae WebInspect yn arf diogelwch a phrofi treiddio sy’n safonol ar gyfer y diwydiant ar gyfer cymwysiadau ar y we. Darganfyddwch fwy ynghylch meddalwedd WebInspect.

Mae’r tablau isod yn egluro’r cwcis rydym yn eu defnyddio, a pham:

Enw

Gosodwyd gan

Hyd

Disgrifiad

ASP.NET_SessionId

Safle we

Yn cael ei ddileu pan mae defnyddiwr yn gadael safle

Yn adnabod defnyddiwr drwy gydol ymweliad i safle

lang

Safle we

16 mis

Yn cael ei ddefnyddio i benderfynu'r iaith ar gyfer yr ymwelydd

cookieMe

Safle we

12 mis

Yn sicrhau nad yw defnyddiwr yn gweld ffenestr arolwg dro ar ôl tro wrth ddychwelyd i safle

PopupVisitData_[survey group]

Safle we

Yn cael ei ddileu pan mae defnyddiwr yn gadael safle

Yn sicrhau nad yw defnyddiwr yn gweld ffenestr arolwg dro ar ôl tro wrth ymweld â safle

_utma

Google Analytics

Byth yn dod i ben

Yn olrhain nifer yr ymweliadau, amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol, a'r ymweliadcyfredol http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

_utmb

Google Analytics

Yn cael ei ddileu pan mae defnyddiwr yn gadael safle (neu ar ôl 30 munud o fod yn segur)

Yn olrhain pryd fyddymweliadyn dechrau.Gyda_utmc, yn penderfynuhyd yr ymweliad http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

_utmc

Google Analytics

Yn cael ei ddileu pan mae defnyddiwr yn gadael safle (neu ar ôl 30 munud o fod yn segur)

Yn olrhain pryd fydd ymweliad yn dod i ben http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

_utmz

Google Analytics

6 mis

Yn olrhain o le mae defnyddiwr wedi dod (e.e. peiriant chwilio, safle arall)http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

WEBTRENDS_ID

WebTrends

10 mlynedd

Yn adnabod defnyddwyr unigryw a hyd yr ymweliad
http://webtrends.com/privacy-policy/

WT_FPC

WebTrends

10 mlynedd

http://webtrends.com/privacy-policy/

Amryw

GroupM

(uk.gmads.net

neu .mookie1.com)

 

13 mis i 2 flynedd

Yn gyffredinol, yn cynnwys rhif sy'n cael ei gynhyrchu ar hap,  sy'n cael ei ddefnyddio i olrhain ymgyrchoedd marchnata
http://www.groupmmarketplace.com/uk/page/privacy-policy

Amryw

DoubleClick

(.doubleclick.net)

2 flynedd

Yn gyffredinol, yn cynnwys rhif sy'n cael ei gynhyrchu ar hap,  sy'n cael ei ddefnyddio i olrhain ymgyrchoedd marchnata
http://www.doubleclick.com/privacy/index.aspx

Gweler y dudalen: TDA cookies

Amryw

Adconion Media Group

(amgdgt.com)
30 diwrnod i 1 flwyddyn Yn gyffredinol, yn cynnwys rhif sy’n cael ei gynhyrchu ar hap,  sy’n cael ei ddefnyddio i olrhain ymgyrchoedd marchnata

http://www.youronlinechoices.com/uk/your-ad-choices

Amryw

Quantcast

(quantserve.com)
90 diwrnod Yn gyffredinol, yn cynnwys rhif sy’n cael ei gynhyrchu ar hap,  sy’n cael ei ddefnyddio i olrhain ymgyrchoedd marchnata

http://www.quantcast.com/privacy

 

Mae mwyafrif y porwyr yn ei gwneud yn bosibl i reoli’r cwcis i ryw raddau, trwy osodiadau’r porwr. Am fwy o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys gweld pa gwcis sydd wedi’u gosod, a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i http://www.allaboutcookies.org/.

Os fyddai’n well gennych optio allan o gael eich olrhain gan Google Analytics pan fyddwch yn ymweld â gwefannau, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Os byddwch yn parhau i ymweld â gwefannau’r Comisiwn heb newid y gosodiadau hyn, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn caniatáu i’r cwcis gael eu defnyddio fel y nodir uchod. Dylech fod yn ymwybodol y gall cyfyngu cwcis effeithio ar swyddogaeth gwefannau'r Comisiwn Etholiadol.

Gwybodaeth bersonol arall

Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn casglu data personol drwy gyfrwng ein gweithgareddau dydd i ddydd a’n cyswllt gyda phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Mae'n rhaid i ni gadw manylion y bobl sydd wedi gofyn am wasanaeth, er mwyn ei ddarparu. Fodd bynnag, rydym ond yn defnyddio'r manylion hyn i ddarparu'r gwasanaeth y mae’r person wedi gwneud cais amdano.

Gweler ein polisi ar gasglu a chadw gwybodaeth bersonol (PDF) (Saesneg yn unig)

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf: Ebrill 2012.

Sut i gysylltu â ni

Gallwch anfon ymholiadau ynghylch sut mae'r Comisiwn yn casglu ac yn cadw gwybodaeth bersonol atom drwy'r post neu drwy e-bost. Anfonwch geisiadau i:

Joanne Crofton-Diggins

The Electoral Commission

3 Bunhill Row

London EC1Y 8YZ

JCrofton-Diggins@electoralcommission.org.uk

Gwybodaeth gyffredinol

  • Mae gan y wefan hon fesurau diogelwch mewn lle i amddiffyn yn erbyn colli, camddefnyddio neu ddiwygio deunydd sydd o dan ein rheolaeth ni. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros newid, camddefnyddio neu ddehongli ein data unwaith mae wedi cael ei roi ar y we fyd-eang
  • Mae ein gwybodaeth ar y we fyd-eang yn amodol ar newid heb rybudd
  • Yn y mannau ble rydym yn rhoi cysylltiadau i wefannau, nid ydym yn cefnogi unrhyw wybodaeth neu farnau sy’n ymddangos ynddynt drwy wneud hyn
  • Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl dros y tudalennau a gysylltir
  • Mae’r wefan hon yn cael ei llywodraethu gan gyfraith y Deyrnas Unedig.

Rhannwch y dudalen hon