Dinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor

Cofrestru i bleidleisio

Cofrestrwch i bleidleisio fel 'pleidleisiwr o dramor' i fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau (cyffredinol) Senedd y D.U. ac etholiadau Senedd Ewrop yn y D.U.

Ffurflen gofrestru

Mae pwdin Sir Efrog, tafarndai, a chael trafodaeth dda dros baned neis o de gyda hen ffrind yn ddim ond un o’r pethau rydych chi’n colli o bosib pan rydych chi dramor. Fodd bynnag, nid yw byw dramor yn eich rhwystro chi rhag lleisio’ch barn gartref…

Mae pob dinesydd Prydeinig sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y D.U. yn y 15 mlynedd diwethaf, yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau (cyffredinol) Senedd y D.U. ac etholiadau Senedd Ewrop yn y D.U.

Os oeddech chi’n rhy ifanc i bleidleisio pan adawoch chi’r D.U., gallwch chi gofrestru o hyd fel pleidleisiwr o dramor, cyn belled â bod eich rhiant neu eich gwarchodwrwedi cofrestru i bleidleisio yn y D.U.

Sut gallaf bleidleisio?

Unwaith rydych chi wedi cofrestru, bydd angen i chi benderfynu sut rydych chi eisiau pleidleisio, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

  • Voting in Person

    By post

    If you're in the UK on election day, you can always vote in person at a polling station.

  • Voting by Post

    By post

    If you live abroad you can apply to vote by post, although you must be registered as an overseas voter.

  • Voting by Proxy

    By post

    If you're abroad you can apply to vote by proxy (someone voting on your behalf). You must be registered to vote first.

  • Pleidleisio mewn Person

    Os ydych chi yn y D.U. ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi bleidleisio mewn person mewn gorsaf bleidleisio.

  • Pleidlesio drwy’r Post

    Os ydych chi dramor, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy’r post, er efallai na fydd gennych chi lawer o amser i ddychwelyd eich papur pleidleisio i’r D.U.

  • Pleidleiso drwy ddirprwy

    Os ydych chi dramor, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy (cael rhywun i bleidleisio ar eich rhan)

Edrychwch ar ein tudalennau Sut i bleidleisio am ragor o wybodaeth.

Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth ar gofrestru a phleidleisio? Edrych ar ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod