Un o Weision y Goron neu un o weithiwyr y Cyngor Prydeinig
Mae Gweision y Goron (fel pobl sy’n gweithio i Lysgenhadaeth Prydain) ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd dramor yn gallu pleidleisio ymhob etholiad. Bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gofrestru (dewiswch yr un priodol), a’i hanfon i swyddfa cofrestru etholiadol lleol yr ardal y byddech chi'n byw ynddi pe na fyddech chi dramor. Yna gallwch chi ddewis pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan). Dim ond wythnos cyn etholiad y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon. Bydd angen i chi ystyried a yw hyn yn rhoi digon o amser i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen atom. Gallai fod yn well i chi benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan.
Gwybodaeth etholiadol
Mae etholiadau i ddod
Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).
Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009.
Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!
Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol
I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod