Datganiad gan y Comisiwn Etholiadol
Mae’n destun pryder difrifol nad oedd llawer o
bobl oedd eisiau pleidleisio ar ddydd Iau 6 Mai wedi gallu gwneud
hyn erbyn 10yh, sef diwedd y cyfnod pleidleisio.
Mae pob Swyddog Canlyniadau’n gyfrifol am
benderfynu faint o orsafoedd pleidleisio sydd angen yn eu
hetholaeth a faint o etholwyr sy’n cael eu dyrannu i bob
gorsaf pleidleisio.
Yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i orsafoedd
pleidleisio gau am 10yh, a dylai unrhyw bleidleisiwr sy’n derbyn
papur pleidleisio erbyn 10yh gael amser i fwrw eu pleidlais, ond ni
ddylid cyflwyno unrhyw bapurau pleidleisio ar ôl 10yh.
Dylai digon o adnoddau fod wedi cael eu
dyrannu i sicrhau bod pawb oedd eisiau pleidleisio yn gallu
pleidleisio.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn cynnal adolygiad
trylwyr o’r hyn a ddigwyddodd yn yr etholaethau hynny lle nad yw
pobl wedi gallu pleidleisio.
Hoffem glywed yn uniongyrchol gan
bleidleiswyr am eu profiadau, i’n cynorthwyo ni gyda’n
hadolygiad. Anfonwch e-bost atom ni: info@electoralcommission.org.uk
Gwybodaeth etholiadol
Mae etholiadau i ddod
Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).
Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009.
Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!
Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol
I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod