Citizens of EU countries outside the UK and Republic of Ireland

Ar 4 Mehefin 2009, fe fydd etholiadau Senedd Ewrop yn cael eu cynnal drwy gydol y DU.

Os ydych chi’n ddinesydd gwlad yr Undeb Ewropeaidd, gallwch chi gofrestru i bleidleisio yn y DU yn etholiad Senedd Ewrop.  Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yma - mae rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflen erbyn 19 Mai er mwyn i chi fedru pleidleisio ar 4 Mehefin. 

Er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r UE yn y DU yn hytrach nag yn eich mamwlad, mae angen i chi hefyd lenwi ffurflen gofrestru Senedd Ewrop i bleidleiswyr ar gyfer dinasyddion yr UE erbyn 19 Mai.

Mae Dinasyddion y D.U, Gweriniaeth Iwerddon, Malta a Cyprus yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad yn y D.U. ac felly, nid oes angen iddynt ddefnyddio’r ffurflen hon. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yma os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru.

Y dinasyddion hynny o’r UE sydd angen llenwi ffurflen cofrestru pleidleiswyr ar gyfer Senedd Ewrop yw’r rhai hynny sy’n ddinasyddion y gwledydd canlynol:

Awstria
Gwlad Belg
Bwlgaria
Gweriniaeth Tsiec
Denmarc
Estonia
Y Ffindir
Ffrainc
Yr Almaen
Groeg
Hwngari
Yr Eidal

Latfia
Lithwania
Lwcsembwrg
Yr Iseldiroedd
Gwlad Pwyl
Portiwgal
Romania
Slofacia
Slofenia
Sbaen
Sweden

Lawrlwythwch y ffurflen o’r ddolen hon.

Unwaith rydych chi wedi lawrlwytho’r ffurflen, bydd angen i chi ei dychwelyd hi i’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.  Gellir dod o hyd i’r cyfeiriad drwy roi eich manylion yn y bocs ‘Eich ardal leol’ sydd ar dop y dudalen hon ar yr ochr dde.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod