New students page
Ydych chi ar fin mynd i’r brifysgol? A oeddech chi’n gwybod eich
bod chi’n gallu cofrestru i bleidleisio gartref ac
yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor? Felly, dim ots ble rydych chi
ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi leisio’ch
barn.
Mae’n rhwydd cofrestru
Pan rydych chi’n cyrraedd y
brifysgol, yr unig beth sydd raid i chi wneud yw dilyn y
camau i lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein, yna’i hargraffu hi a’i
dychwelyd hi i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich ardal yn
ystod y tymor.
Ond peidiwch â mynd yn rhy gyffrous! Mae’n
rhaid i chi aros nes eich bod chi wedi symud i’ch cyfeiriad yn
ystod y tymor i gofrestru yn y brifysgol – ni chewch chi wneud hyn
o flaenllaw. Yn y cyfamser, os nad ydych chi eisoes wedi
cofrestru i bleidleisio gartref, gallwch chi wneud hyn yma
hefyd.
Ydw i eisoes wedi
cofrestru?
Pam ddylwn i
gofrestru i bleidleisio
A gaf i bleidleisio ddwywaith, gartref ac yn y
brifysgol?
Ni chewch chi bleidleisio
ddwywaith mewn:
Etholiad Senedd y D.U, Senedd Yr Alban,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd Ewrop.
Fodd bynnag, fe gewch chi
bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol gartref ac yn eich
cyfeiriad yn ystod y tymor, cyn belled â nad ydynt yn yr un ardal
llywodraeth leol.
Welsh bodytext