Myfyrwyr

Mae’n amhosib gwneud rhai pethau mewn 3 munud…

 

Nid yw cofrestru i bleidleisio’n un ohonynt.

Ffurflen cofrestru

Os ydych chi’n fyfyriwr, gallwch chi gofrestru gartref ac yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor.  Felly, dim ots ble rydych chi ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi leisio’ch barn.

Mae’n rhwydd cofrestru

Yr unig beth sydd raid i chi wneud yw dilyn y camau i lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein, yna’i hargraffu hi a’i dychwelyd hi i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich cyngor lleol yn ystod y tymor.

Pe byddai’n well gennych chi argraffu ffurflen wag i’w llenwi wedyn, gallwch chi wneud hynny hefyd. Lawrlwythwch ffurflen gofrestru etholiadol

 

Ydw i eisoes wedi cofrestru?

Pam ddylwn i gofrestru i bleidleisio

 

A gaf i bleidleisio ddwywaith, gartref ac yn y brifysgol?

Ni chewch chi bleidleisio ddwywaith mewn:

Etholiad Senedd y D.U, Senedd Yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd Ewrop.

Fodd bynnag, fe gewch chi bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol gartref ac yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, cyn belled â nad ydynt yn yr un ardal llywodraeth leol.

 

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod