Termau & Amodau
1. Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol o dan adran 13 (1)(a)
Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (2000) i
hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o systemau etholiadol ynghyd â
materion cysylltiedig o’r fath fel y gwêl yn dda;
2. Bydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei gefnogi ac/neu ei brosesu
ar y safle yma wrth ddarparu Gwasanaethau cofrestru Etholiadol, yn
cydymffurfio bob amser gyda phob deddfwriaeth, rheoliadau, a
rheolau eraill cymwys sydd â phŵer tebyg, gan gynnwys y Ddeddf
Amddiffyn Data a’r egwyddorion amddiffyn data a gyfeirir atynt yn y
Ddeddf Amddiffyn Data;
3. Mae gan y safle fesurau diogelwch mewn lle i amddiffyn yn
erbyn colli, camddefnyddio neu ddiwygio deunydd sydd o dan ein
rheolaeth ni. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw
gyfrifoldeb dros newid, camddefnyddio neu ddehongli ein data
unwaith mae wedi cael ei roi ar y we fyd-eang;
4. Mae ein gwybodaeth ar y we fyd-eang yn amodol ar newid heb
rybudd;
5. Yn y mannau ble rydym yn rhoi cysylltiadau i safleoedd, nid
ydym yn cefnogi unrhyw wybodaeth neu farnau sy’n ymddangos ynddynt
drwy wneud hyn. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl dros
argaeledd y taflenni a gysylltir;
6. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei amddiffyn gan hawlfraint.
Ni ddylech chi gopïo neu ailgynhyrchu unrhyw ddarluniau neu ddarnau
mawr o destun heb dderbyn caniatâd gennym ni ar bapur. Dylech
chi gyfeirio gofynion o’r fath at y canlynol: Corporate
Communication Manager, The Electoral Commission, 3 Bunhill Row,
London EC1Y 8YZ.
Rhannwch y dudalen hon
Gwybodaeth etholiadol
Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gynnal etholiadau yn eich ardal chi.
Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol
I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod