Adran cysylltiadau defnyddiol
Yn yr adran hon, mae llawer o gysylltiadau
defnyddiol ar gael i wefannau eraill sydd â gwybodaeth am
gofrestru, etholiadau a phleidleisio.
Nodwch os gwelwch yn dda, nad ydym yn gyfrifol
am gynnwys gwefannau allanol
Eich cynrychiolwyr etholedig a’r sefydliadau
maen nhw’n gweithio ynddynt
Canlyniadau etholiadau o’r gorffennol
Gallwch chi ddod o hyd i ganlyniadau etholiadau o’r gorffennol ar
wefan Y Comisiwn Etholiadol, yn yr adran canlyniadau a dadansoddi
etholiadau.
Mae gwefan Newyddion y BBC hefyd yn cyhoeddi
crynodebau o ganlyniadau etholiadau diweddar, yn ogystal
â’rnewyddion diweddaraf ynghylch gwleidyddiaeth.
Sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn
cofrestru ag etholiadau yn y DU
Caiff y gofrestr etholiadol ag etholiadau eu
rheoli’n bennaf gan swyddogion cofrestru etholiadol lleol a
swyddogion canlyniadau. Yn Lloegr a Chymru, maen nhw wedi’u
lleoli mewn cynghorau lleol. Yn yr Alban, efallai y bydd
swyddfeydd ar wahân. Gallwch chi ddod o hyd i’w gwefannau a’u
manylion cyswllt eraill drwy roi eich côd post ar y safle yma.
Y Comisiwn
Etholiadol
Corff annibynnol yw’r Comisiwn Etholiadol a sefydlwyd gan Senedd y
DU. Gallwch chi gael mwy o fanylion ynghylch beth rydym ni’n
gwneud ar y dudalen Amdanom ni
Y
Comisiwn Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon
Mae’r Prif Swyddog Etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn gweinyddu
etholiadau ac yn creu’r Gofrestr o Etholwyr yng Ngogledd
Iwerddon. Mae’n annibynnol o’r Llywodraeth ac mae’n cael
cymorth gyda’i ddyletswyddau gan staff y Swyddfa Etholiadol ar
gyfer Gogledd Iwerddon.
Y
Weinyddiaeth Gyfiawnder
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw prif adran y
llywodraeth o ran etholiadau. Maen nhw’n gyfrifol am ddiwygio
deddfwriaeth etholiadol i wella mynediad, ymrwymiad a hyder yn y
system, ac i ddosbarthu etholiadau a gweithdrefnau cofrestru mewn
dull proffesiynol. Maen nhw hefyd yn arwain ar foderneiddio
etholiadau, ac yn edrych ar ffyrdd o roi dewis i bobl yn y ffordd
maen nhw’n pleidleiso.
Gwefannau defnyddiol eraill i gael gwybodaeth
ynghylch democratiaeth ag etholiadau.
Upmystreet
Mae Upmystreet yn darparu gwybodaeth yn ôl côd post am eich ardal
leol, yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig.
theyworkforyou - Prosiect
mysociety - Gwefan
amhleidiol sy’n cael ei chynnal gan elusen, sy’n ceisio ei gwneud
hi’n hawdd i bobl gadw golwg ar eu cynrychiolwyr etholedig a’r rhai
na etholwyd yn y Senedd, ac mewn cynulliadau eraill.
writetothem - Prosiect mysociety – Nod y wefan hon yw ei
gwneud hi’n fwy rhwydd i bobl gysylltu â’u ASau.
Votewise
Gwefan annibynnol yw Votewise sy’n dweud wrthych chi pan fydd
etholiad yn cael ei gyhoeddi yn eich ardal, pwy yw’r ymgeiswyr ac
am beth maen nhw’n sefyll.
Ask aristotle
Ask
aristotle Cronfa ddata gwleidyddol Guardian Unlimited. Ar agor
i bawb ac am ddim i’w defnyddio, mae’n llawn gwybodaeth am ASau,
gweinidogion, ymgeiswyr etholiadau a gweithgareddau seneddol.