Am beth gaf i bleidleiso?

Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am y cyrff etholedig gwahanol yn y D.U y mae eich cynrychiolwyr yn eistedd ynddynt.  Pan rydych chi’n pleidleisio mewn etholiadau, rydych chi’n penerfynu pwy sy’n eich cynrychioli chi a’n gwneud penderfyniadau ar eich rhan am ystod fawr o faterion gwahanol sy’n effeithio arnoch chi - popeth o’r ffyrdd ag ailgylchu yn eich ardal, i addysg a newid yn yr hinsawdd. Mae gan bawb yn y D.U gyngor lleol, AC sy’n eistedd yn Senedd y D.U, ag aelodau o Senedd Ewrop sy’n eich cynrychioli chi yn Ewrop.  Yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, mae posibiliad eich bod chi’n cael eich cynrychioli hefyd gan gyrff datganoledig, fel y rhai hynny sy’n cynrychioli Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

 

A oeddech chi’n edrych am wybodaeth am y cynrychiolwyr etholedig yn eich ardal?  Gallwch chi ddod o hyd i hynny yn fan hyn.

 

Browser does not support script.

  • Senedd Ewrop

    Mae Senedd Ewrop yn cynrychioli pobl sy’n byw yn 27 o aelod wladwriaethau’r UE

  • Cynghorau Lleol

    Mae cynghorau’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol

  • Maer Llundain a’r Cynulliad

    Mae Maer Llundain a’r Cynulliad yn cynrychioli pobl sy’n byw yn Llundain Fwyaf a’r Ddinas

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynrychioli pobl Cymru ac mae'n gallu gwneud deddfau i adlewyrchu eu hanghenion.

  • Cynulliad Gogledd Iwerddon

    Mae’r Cynulliad yn cynrychioli pobl Gogledd Iwerddon, ac mae'n gallu pasio deddfau.

  • Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

    Mae'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn rôl newydd a fydd yn cymryd lle eich awdurdod heddlu lleol.

  • Senedd Yr Alban

    Mae Senedd yr Alban yn gofalu am eu materion cyfansoddiadol a thramor, ac am faterion amddiffyn

  • Senedd y DU

    Mae Senedd y DU yn cynrychioli pobl y Deyrnas Unedig

  • Refferenda

    Mae refferenda yn cael eu cynnal i ofyn i bobl i bleidleisio ar gynnig penodol. Gellir cael gwybodaeth am refferenda a gynlluniwyd yma.

Rhannwch y dudalen hon

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* Wrth ddewis "Ewch", rydych yn derbyn ein telerau ac amodau

Gwybodaeth etholiadol

Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gynnal etholiadau yn eich ardal chi.

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod