Senedd Ewrop
Beth mae’n wneud?
Mae Senedd Ewrop yn cynrychioli pobl sy’n byw yn 27 o
aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae ganddo bwerau mewn
ystod o feysydd sy’n effeithio ar aelod wladwriaethau:
- hawliau anifeiliaid
- hawliau prynwr
- yr amgylchedd
- masnach ryngwladol
- datblygiad economaidd rhanbarthol
- hawliau gweithwyr
Mae ganddo’r pŵer i gymeradwyo, diwygio neu wrthod deddfau
Ewropeaidd newydd. Hefyd, mae’n cymeradwyo cyllideb yr UE ag
aelodau newydd o’r Comisiwn Ewropeaidd.
Sut mae wedi ei ffurfio?
Mae gan Senedd Ewrop 736 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau), sy’n
cael eu hethol gan 27 o aelod wladwriaethau’r UE. Caiff y DU ei
chynrychioli gan 72 o ASEau. Mae 12 o ranbarthau etholiadol
Ewropeaidd yn y DU, ac mae pob rhanbarth yn cael eu cynrychioli gan
dri i ddeg o ASEau. Ewch i wefan Swyddfa’r DU o Senedd Ewrop i
ddarganfod ym mha ardal ydych chi’n byw ynddi a phwy sy’n
cynrychioli eich ardal.
Mae ASEau yn treulio rhywfaint o’u hamser yn eu hetholaethau
rhanbarthol yn y DU, a rhywfaint o’u hamser mewn cyfarfodydd
gwleidyddol ym Mrwsel. Maen nhw’n mynd i Strasbwrg am wythnos pob
mis, i drafod a phleidleisio ar ddeddfau Ewropeaidd newydd gydag
ASEau o aelod wladwriaethau eraill yn yr UE.
Sut mae’n cael ei ethol?
Yn etholiad Senedd Ewrop yn y DU, mae gennych chi un bleidlais i
ethol eich holl ASEau. Mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr
sy’n cael ei hadnabod fel rhestr ranbarthol, ac rydych chi’n
pleidleisio am un o’r rhestri yma, neu am ymgeisydd unigol sy’n
sefyll yn annibynnol. Mae nifer yr ASEau sy’n cael eu hethol o bob
plaid i gynrychioli rhanbarth yn dibynnu ar gyfran gyffredinol y
pleidleisiau mae pob plaid yn derbyn.
Mae system bleidleiso wahanol ar gael yng Ngogledd Iwerddon o’r
enw pleidlais sengl drosglwyddadwy. Rydych chi’n pleidleiso drwy
raddio ymgeiswyr yn ôl eich ffefrynnau.
Pryd mae’n cael ei ethol?
Mae etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn cael eu cynnal pob pum
mlynedd. Mae’r etholiadau nesaf wedi cael eu cynllunio i gael eu
cynnal ym mis Mehefin 2009.
Ym mhle gallaf i ddarganfod mwy?
Gwefan Swyddfa’r DU o Senedd
Ewrop
Gwybodaeth etholiadol
Mae etholiadau i ddod
Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).
Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009.
Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!
Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol
I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod