Maer Llundain a’r Cynulliad

Maer Llundain a’r Cynulliad

Beth mae’n wneud?

Mae gan Faer Llundain y pŵer i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol sy’n effeithio ar Lundain:

  • y celfyddydau a diwylliant
  • datblygiad economaidd
  • yr amgylchedd
  • tân a diogelwch
  • byw’n iachus
  • yr heddlu
  • trafnidiaeth
  • adfywio trefol

Mae Cynulliad Llundain yn cadw golwg ar beth mae’r Maer yn wneud.  Mae hefyd yn archwilio materion sy’n bwysig i bobl Llundain, yn cyhoeddi ei ddarganfyddiadau a’i argymhellion, ac yn gwneud cynigion i’r Maer.

Sut mae wedi ei ffurfio?

Mae Maer Llundain a Senedd Llundain yn ffurfio Awdurdod Llundain Fwyaf, sy’n ffurf unigryw o lywodraeth i Lundain.  Mae ganddo tua 600 o staff i helpu’r Maer a’r Cynulliad gyda’u dyletswyddau.

Mae gan Gynulliad Llundain 25 o Aelodau’r Cynulliad.  Mae pedwar ar ddeg o’r rhain yn cynrychioli etholaethau, sy’n cael eu ffurfio o ddau neu fwy o fwrdeistrefi Llundain.  Mae’r 11 aelod arall yn cynrychioli Llundain gyfan.

Sut maen nhw’n cael eu hethol?

Pan rydych chi’n pleidleisio yn etholiadau Maer Llundain a’r Cynulliad, mae gennych chi bedair pleidlais.  Am bob pleidlais, rydych chi’n marcio croes sengl (X) yn y bocs wrth ymyl enw’r ymgeisydd neu’r blaid rydych chi eisiau pleidleisio drostynt.

Etholiad Maer Llundain

1. Dewis cyntaf ar gyfer Maer Llundain
2. Ail ddewis ar gyfer Maer Llundain
3. Nid oes rhaid i chi wneud eich pleidlais ail ddewis, ond mae rhaid i chi bleidleisio ar gyfer eich dewis cyntaf neu ni fydd eich papur pleidleisio yn cael ei gyfrif.

Etholiad Cynulliad Llundain

4. Un bleidlais ar gyfer aelod etholaethol Cynulliad Llundain
5. Un bleidlais ar gyfer aelod Llundain gyfan Cynulliad Llundain.

Mae etholiadau ar gyfer Maer Llundain a’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.  Mae’r etholiadau nesaf wedi eu cynllunio i gael eu cynnal yn 2012.

Ym mhle gallaf i ddarganfod mwy?

Gwefan ar gyfer Maer Llundain, Cynulliad Llundain ag Awdurdod Llundain Fwyaf

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod