Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Beth mae’n wneud?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynrychioli pobl Cymru ac mae
ganddo’r pŵer i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:
- amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth, a datblygu
gwledig
- cofebion hynafol ag adeiladau hanesyddol
- diwylliant
- datblygiad economaidd
- addysg ag hyfforddiant
- yr amgylchedd
- gwasanaethau tân ac achub
- iechyd a gwasanaethau iechyd
- priffyrdd a thrafnidiaeth
- tai
- diwydiant
- llywodraeth leol
gweinyddiaeth gyhoeddus
- lles cymdeithasol
- chwaraeon ag adloniant
- twristiaeth
- cynllunio tref a gwlad
amddiffyniad rhag dŵr a llifogydd
yr iaith Gymraeg
O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nawr, gall
Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud deddfau yn y meysydd hyn, sy’n
cael eu hadnabod fel Mesurau’r Cynulliad, Bydd y mesurau hyn
yn unigryw i Gymru, a byddan nhw’n adlewyrchu anghenion a phryderon
penodol pobl yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i reoli rhai gwasanaethau
cyhoeddus a meysydd deddfwriaeth. Er enghraifft, nid yw
cyfrifoldebau am y gwasanaeth heddlu, diogelwch cymdeithasol a
deddfwriaeth cyflogaeth wedi eu datganoli. Nid oes gan y
Cynulliad bwerau i godi trethi.
Sut mae wedi ei ffurfio?
Mae 60 o Aelodau etholedig y Cynulliad (AC), ac os ydych chi’n
byw yng Nghymru, rydych chi’n cael eich cynrychioli gan bump
ohonynt. Mae un AC yn cynrychioli eich etholaeth Cynulliad, ac
mae’r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth.
Caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru ei ffurfio gan y blaid neu’r
pleidiau sydd â’r mwyaf o seddi yn y Cynulliad, a chaiff ei arwain
gan y Prif Weinidog. Caiff y Llywodraeth ei ffurfio gan wyth
gweinidog arall sydd oll â chyfrifoldeb am faes penodol. Mae
Gweinidogion yn atebol i’r Cynulliad, ac mae rhaid iddynt ateb
cwestiynau gan Aelodau Cynulliad eraill am eu polisïau a’u
gweithgareddau.
Sut mae’n cael ei ethol?
Pan rydych chi’n pleidleisio yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, mae gennych chi ddwy bleidlais - un i ethol eich aelod
etholaethol ac un arall i ethol eich aelod rhanbarthol. Yn y
bleidlais etholaethol, rydych chi’n dewis yr ymgeisydd rydych chi
eisiau i’ch cynrychioli chi’n uniongyrchol. Yn y bleidlais
ranbarthol, rydych chi’n dewis o restr o ymgeiswyr plaid neu rai
annibynnol i gynrychioli eich rhanbarth.
Yn y bleidlais etholaethol, yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o
bleidleisiau sy’n cael eu hethol. Yn y bleidlais ranbarthol,
caiff seddi ei dyrannu’n gyfrannol, yn ôl nifer y pleidleisiau a
fwriwyd ar gyfer pob plaid. Mae hyn yn golygu, os nad yw plaid yn
ennill digon o seddi yn y bleidlais etholaethol i gyfateb â’r
gefnogaeth sydd ganddi yn y bleidlais ranbarthol, gallai ennill
seddi ychwanegol.
Pryd mae’n cael ei ethol
Mae etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cael eu cynnal bob
pedair blynedd. Mae’r etholiadau nesaf wedi eu cynllunio i
gael eu cynnal ym mis Mai 2011.
Ym mhle gallaf i ddarganfod mwy?
Gwefan Cynulliad Cenedlaethol
Cymru