Cynulliad Gogledd Iwerddon
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Beth mae’n wneud?
Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cynrychioli pobl Gogledd
Iwerddon ac mae ganddo’r pŵer i wneud penderfyniadau a phasio
deddfau yn y meysydd canlynol:
- amaethyddiaeth a datblygu cefn gwlad
- diwylliant a’r celfyddydau
- datblygiad economaidd
- addysg ag hyfforddiant
- yr amgylchedd
- iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- tai
- diwydiant, masnach a buddsoddiad
- llywodraeth leol
- chwaraeon a hamdden
- twristiaeth
- cynllunio tref a gwlad
- trafnidiaeth a ffyrdd
- amddiffyniad rhag dŵr a llifogydd
Gelwir y rhain yn faterion a drosglwyddir. Caiff meysydd
fel plismona a chyfiawnder troseddol eu galw’n faterion a gedwir yn
ôl. Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy’n gwneud penderfyniadau ar y
materion hyn, ond gallan nhw drosglwyddo cyfrifoldeb i Gynulliad
Gogledd Iwerddon.
Mae meysydd fel amddiffyn a threthiant yn faterion sy’n cael eu
heithrio, sy’n golygu eu bod nhw’n parhau i fod yn gyfrifoldeb
Senedd y DU.
Sut mae wedi ei ffurfio?
Mae 108 o Aelodau etholedig o’r Cynulliad Deddfwriaethol. Mae
chwech o Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol yn cynrychioli pob un
o’r 18 o etholaethau yng Ngogledd Iwerddon.
Caiff y Cynulliad ei arwain gan y Weithrediaeth sy’n cynnwys y Prif
Weinidog, y Dirprwy Brif Weinidog, a’r Pwyllgor Gweithredol
Gweinidogion. Mae bob Gweinidog Cynulliad yn gyfrifol am faes
gwaith penodol. Mae rhaid i Weinidogion ateb cwestiynau gan
Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol ynghylch eu polisïau a’u
gweithgareddau.
Sut mae’n cael ei ethol?
Pan rydych chi’n pleidleiso mewn etholiad ar gyfer Cynulliad
Gogledd Iwerddon, byddwch chi’n cael cerdyn pleidleiso sy’n
rhestru’r ymgeiswyr sy’n ymladd am y chwe sedd yn eich
etholaeth.
Ar eich papur pleidleiso, dylech chi roi ‘1’ yn y bocs sydd ger
eich ymgeisydd dewis cyntaf, a ‘2’, ger eich ail ddewis, a ‘3’ ger
eich trydydd dewis ac yn y blaen. Gallwch chi wneud hyn ar
gyfer pawb rydych chi eisiau pleidleiso drostynt. Gallwch chi
bleidleiso dros gyn gymaint neu cyn lleied o ymgeiswyr ag yr
hoffech, ond gallai dylanwad eich pleidlais gael ei gyfyngu os mai
dim ond dros dipyn o ymgeiswyr rydych chi’n pleidlesio.
Pleidlais drosglwyddadwy sengl yw’r enw ar y system bleidleiso
yng Ngogledd Iwerddon. Yn y cam cyntaf o gyfri’r
pleidleisiau, caiff y pleidleisiau dewis cyntaf eu cyfrif, a chaiff
cwota ei gyfrifo. Y cwota yw lleiafswm nifer y pleidleisiau
mae rhaid i ymgeisydd gael i gael ei ethol. Etholir unrhyw
ymgeisydd sydd â nifer cydradd neu uwch na’r cwota o bleidleisiau
dewis cyntaf.
Os oes llai na chwe ymgeisydd yn cael eu hethol, caiff y
pleidleisiau sy’n weddill eu trosglwyddo i’r ail ddewis. Os
oes seddi yn parhau i fod heb eu llenwi oherwydd bod chwe ymgeisydd
heb gyrraedd y cwota, mae ymgeiswyr gyda’r nifer lleiaf o
bleidleisiau’n cael eu dileu, ac mae eu pleidleisiau’n cael eu
trosglwyddo i’r ail ddewis. Mae’r broses yn parhau nes bod y
chwe sedd wedi eu llenwi.
Felly, os nad yw eich ymgeisydd dewis cyntaf yn cael ei ethol,
neu os ydynt yn cael eu hethol gyda ffin fawr, gallai eich
pleidlais barhau i gael ei defnyddio i’ch helpu chi i ethol eich
ail ddewis. Yn wir, gallai eich pleidlais gael ei
throsglwyddo sawl gwaith wrth i seddi gael eu llenwi, a gallan nhw
chwarae rhan mewn ethol salw ymgeisydd neu’r chwech i gyd.
Ym mhle gallaf i ddarganfod mwy?
Gwefan Cynulliad Gogledd
Iwerddon
Rhannwch y dudalen hon