Chwedlau cyffredin ynghylch cofrestru a phleidleisio

 

  • Chwedl: Os ydych chi’n talu treth y cyngor, rydych chi’n cael eich cofrestru i bleidleisio’n awtomatig

    Gwir: Hyd yn oed os ydych chi’n talu treth y cyngor, ni fyddwch chi wedi cael eich cofrestru i bleidleisio’n awtomatig, felly mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru i bleidleiso. Pam na wnewch chi fynd i’r dudalen cofrestru i bleidleisio y funud hon?

  • Chwedl: Mae rhaid i chi fod wedi cael eich geni yn y DU i bleidlesio yn etholiadau’r DU

    Gwir: Gall dinasyddion yr UE a rhai cymwys y Gymanwlad sy’n byw yn y DU gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r DU, er nad yw dinasyddion yr UE yn cael pleidleisio yn etholiadau (cyffredinol) Senedd y DU.

  • Chwedl: Ni fyddaf yn gallu pleidleiso oherwydd fe fyddaf yn y gwaith pan fydd yr orsaf bleidleiso ar agor

    Gwir: Mae gorsafoedd pleidleiso ar agor o 7yb i 10yh ar gyfer holl etholiadau’r DU, felly dylai pawb gael amser i bleidleiso. Yn ogystal, erbyn hyn, gallwch chi fynd â phlant gyda chi pan rydych chi’n mynd i bleidlesio. Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd yr orsaf bleidleiso, gallwch chi wneud cais i bleidleiso drwy’r post neu ofyn i rywun arall fwrw eich pleidlais drosoch chi (dirprwy). Mae bob amser yn syniad da i gofrestru, ac wedyn, os ydych chi’n newid eich meddwl, mae gennych chi’r opsiwn i bleidleiso petasech chi’n dymuno.

  • Chwedl: Dim ond bob 4 blynedd mae etholiadau’n cael eu cynnal

    Gwir: Er mai dim ond unwaith bob 5 mlynedd mae rhaid cynnal etholiadau cyffredinol senedd y DU, mae mathau eraill o etholiadau sy’n effeithio ar eich ardal a’r bobl sy’n eich cynrychioli chi. Mae’r rhain yn cynnwys etholiadau llywodraeth leol ag etholiadau Senedd Ewrop, yn ogystal ag etholiadau mewn rhai rhannau o’r DU i gyrff datganoledig. (Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Maer Llundain a’r Cynulliad). Fel arfer, mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal yn fwy aml na mathau eraill o etholiadau, oherwydd nad yw’r holl gynghorwyr yn cael eu hethol ar yr un pryd. Felly, efallai y byddwch chi’n darganfod fod etholiadau sy’n berthnasol i chi’n cael eu cynnal bron pob blwyddyn - dyma pam ei fod yn bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru i bleidleiso! Gallwch chi gael gwybodaeth am etholiadau sydd i ddod yn eich ardal chi drwy roi eich côd post ar y wefan hon.

  • Chwedl: Dim ond unwaith y flwyddyn gallwch chi gofrestru yn ystod y ganfas

    Gwir: Gallwch chi gofrestru yn ystod unrhyw adeg o’r flwyddyn. Caiff y gofrestr ei diweddaru bob mis, felly os ydych chi’n symud tŷ neu’n newid eich manylion, bydd angen i chi ail-gofrestru. Drwy wneud hyn, os caiff etholiad ei alw ar fyr rybudd, byddwch chi’n gallu pleidleisio.

  • Chwedl: Mae rhaid i fyfyrwyr fynd adref i gofrestru a phleidleisio

    Gwir: Gallai myfyriwr gofrestru i bleidlesio yn y cyfeiriad maen nhw ynddo yn ystod y tymor, yn ogystal ag yn eu cyfeiriad gartref. Fodd bynnag, dim ond unwaith gewch chi bleidleiso mewn unrhyw un etholiad.

  • Chwedl: Os ydych chi yn y lluoedd arfog, mae rhaid i chi ail-gofrestru bob blwyddyn

    Gwir: Os ydych chi’n cofrestru fel Pleidleisiwr o’r Lluoedd, dim ond pob tair blynedd fydd rhaid i chi ail-gofrestru.

  • Chwedl: Nid oes rhaid i chi ail-gofrestru os ydych chi wedi symud o fewn yr un awdurdod lleol

    Gwir: Pryd bynnag rydych chi’n newid unrhyw rai o’ch manylion personol, fel symud tŷ, bydd rhaid i chi ail-gofrestru bob amser, hyd yn oed os ydych chi o fewn yr un awdurdod lleol.

  • Chwedl: Os ydych chi wedi cofrestru, mae rhaid i chi bleidleiso

    Gwir: Er bod y gyfraith yn nodi fod rhaid i chi ddychwelyd gwybodaeth cofrestru pan ofynnir i chi wneud hyn, nid oes rhad i chi bleidlesio. Eich penderfyniad chi yw hyn, ond drwy wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru, os fyddwch chi byth eisiau cofrestru, byddwch chi’n gallu lleisio’ch barn.

  • Chwedl: Mae rhaid i chi gofrestru ar gyfer pob etholiad

    Gwir: Ym Mhrydain Fawr, mae eich cofrestriad yn parhau am flwyddyn. Mae hynny’n golygu, cyn belled â’ch bod chi’n dychwelyd eich ffurflen canfasio blynyddol unwaith y flwyddyn neu ffurflen gofrestru oddi ar y wefan hon, byddwch chi wedi cofrestru a byddwch chi’n gallu pleidleiso pryd bynnag caiff etholiad ei alw. Mae dipyn yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon - nid oes canfasio blynyddol, felly unwaith rydych chi wedi cofrestru, rydych chi’n parhau i fod wedi cofrestru nes rydych chi’n symud tŷ neu’n newid eich manylion. Peidiwch ag anghofio, os ydych chi’n symud tŷ neu’n newid eich manylion, bydd angen i chi ail-gofrestru ar unwaith, neu ni fyddwch chi’n gallu pleidleisio! Gwell bod yn ddiogel nag yn edifar - os nad ydych chi’n siŵr os ydych chi wedi cofrestru i bleidlesio, gallwch chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol a byddan nhw’n dweud wrthych chi - yr unig beth sydd rhaid gwneud yw rhoi eich côd post ar y safle yma i gael eu manylion cyswllt.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod